Mae llawer o ymadroddion a thalfyriadau a ddefnyddir ddefnyddir yn y diwydiant teithio sy’n cael eu cymryd yn ganiataol gan lawer ohonom. Yma byddwn yn ceisio esbonio’n glir y rhai mwyaf cyffredin a welwch:
Term cyffredinol am unrhyw fusnesau sy’n cyflenwi gwasanaethau i’r diwydiant twristiaeth a phrynu gwasanaethau ganddo.
Corff aelodaeth sy’n cynrychioli dinas neu ardal benodol o fewn rhanbarth. Mae cwmnïau DMC yn hyrwyddo eu partneriaid a’u hardal yn gyffredinol i’r diwydiant teithio ac i’r cyhoedd mewn digwyddiadau neu ymgyrchoedd gwerthu.
Busnes gweithredu teithiau sy’n cyfanwerthu i asiantau a gweithredwyr bach ledled y byd. Byddant yn contractio gyda llawer o wahanol fathau o ddarparwyr llety, atyniadau, darparwyr gwasanaethau (gan gynnwys llogi ceir, cwmnïau trosglwyddo etc) er mwyn darparu ‘rhestr siopa’ o gynhyrchion i’w cleientiaid rhyngwladol ddewis ohoni – trwy eu gwefan a thrwy lyfrynnau. Mae’n bwysig nodi y bydd gan DMC gontract cyfyngol gyda’u hasiantau a’u gweithredwyr, a dim ond os bydd yn cael ei gontractio trwy eu dewis DMC y bydd y busnesau rhyngwladol hyn yn prynu eich cynnyrch.
Gall y teithwyr hyn fod yn unigolion, cyplau, ffrindiau neu deuluoedd sy’n archebu eu gwyliau yn annibynnol (sef nad ydynt yn prynu pecyn gan weithredwr teithiau). Byddant yn chwilio am elfennau penodol y dymunant eu prynu trwy’r diwydiant teithio ee tocynnau atyniadau, tocynnau theatr, arddangosfeydd, atyniadau, teithiau neu lety unigol.
Caiff y rhain eu diffinio fel gweithredwyr teithiau sy’n gweithio ar-lein. Byddai’r rhain yn cynnwys busnesau fel Trip Advisor/Viatour, Get Your Guide, Expedia etc. Byddant yn targedu’r farchnad FIT gan chwilio’n aml am leoedd ar gael yn hwyr, cynigion arbennig etc. Bydd angen i fusnesau cyflenwi sy’n gweithio gydag OTA sicrhau eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth yn barhaus – fel arfer trwy borth ar y we.
Yn aml, bydd yn well gan brynwyr y diwydiant teithio brynu eich gwasanaeth neu gynnyrch pan fyddant ei angen, yn hytrach na chael dyraniad. Mae eithriadau wrth gwrs, megis digwyddiadau neu atyniadau sydd â nifer cyfyngedig o leoedd, neu fynediad wedi’i amseru.
Bydd gweithredwyr teithiau a chwmnïau DMC yn enwedig yn rhoi eu prisiau i gleientiaid hyd at 18 mis ymlaen llaw. Mae’n wirioneddol bwysig iddynt allu dibynnu ar y prisiau a osodwch ar gychwyn eich contract am gyhyd â phosibl – yn sicr am 12 mis.
Darn o bapur (neu weithiau sgrin lun) a fydd yn datgan enw’r trefnydd teithiau sydd wedi gwneud y gwerthiant, nifer y bobl mae’r mynediad yn ddilys ar eu cyfer (gall fod yn grŵp llawn a chael ei drosglwyddo gan y tywysydd) neu’r nifer o oedolion a phlant. Bydd hefyd yn nodi dyddiad ac amser mynediad fel bo’n addas. Ni fydd byth yn dangos pris na gwerth y mynediad oni chafodd ei werthu trwy OTA. Dylai’r daleb gael ei thrin fel prawf o bryniant ac ni ddylid codi tâl wrth y drws ar y cleient sy’n ei chyflwyno. Bydd pob gweithredwr teithiau, DMC ac OTA yn rhoi copi enghreifftiol ichi fel y gallwch sicrhau bod timau rheng flaen yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Mae llinell o gredyd yn safonol drwy’r holl ddiwydiant. Gall fod eithriadau (ee taliad ymlaen llaw) am fynediadau penodol etc. ond cytunir ar y rhain bob amser ar adeg y contractio. Telir fel arfer rhwng 7 diwrnod a 30 diwrnod ar ôl i’r cleient/iaid gyrraedd, a bydd y tâl yn adlewyrchu archebion a amlinellwyd ar y daleb diwydiant teithio.
Bydd y diwydiant teithio yn prynu eich cynnyrch neu wasanaethau ar gyfradd is na’r un a werthir i’r cyhoedd. Bydd hyn naill ai yn ffurf canran o ddisgownt neu ostyngiad pris sefydlog a all ffurfio rhan o becyn. Mae lefelau canran comisiwn neu gyfraddau net yn amrywio a thrafodir hyn gyda chi ar bwynt y cytundebu. Mewn gwirionedd, mae’r ‘cyfraddau masnachol’ hyn yn cynrychioli darpariaeth ‘ennill dim, talu dim’, gan na fyddwch yn ei dalu ond pan gadarnheir gwerthiant. Caiff yr holl farchnata trwy wefannau, llyfrynnau, hyrwyddo etc ei wneud ar gost y gweithredwyr teithiau. Mae’n hynod o bwysig sicrhau nad yw unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a gynigiwch ar gael ar gyfradd well trwy eich marchnata uniongyrchol eich hun at gwsmeriaid nag yw trwy’r cyfraddau contract y cytunwyd arnynt gyda’r diwydiant teithio.
Gall gweithredwyr teithiau a chwmnïau DMC ei chael yn anodd os ydych yn gynnig prisau gwahanol am unigolion a grwpiau iddynt. Gan y bydd y nifer o gleientiaid maent yn eu harchebu gyda chi yn amrywio ac y gallant fod fymryn uwch neu is na’ch niferoedd isafswm yr ystyrir eu bod yn grŵp; ni fyddant yn dymuno talu dwy raddfa wahanol am eu cleientiaid. Os yw’n bosibl dylech gael un raddfa sy’n gymwys ar gyfer pawb, o un person at uchafswm nifer yr ymwelwyr rydych chi’n gallu eu derbyn ar gyfer archeb a wneir gan y diwydiant teithio.
Mae eich contract yn gytundeb blynyddol rhwng eich busnes a’r prynwr am y gwasanaeth rydych yn ei gynnig ac mae’n ddilys am 12 mis ar y tro. Bydd yn cadarnhau’r pris, y comisiwn y byddwch yn ei dalu am bob gwerthiant llwyddiannus, dyddiadau cadarnhau archebion a phob agwedd arall sydd angen cytuno arnynt i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn. Caiff y rhain eu hailgadarnhau yn flynyddol fel arfer trwy e-bost. Dylid cytuno ar bopeth ar y pwynt contractio gan y gall newidiadau yn ystod y flwyddyn achosi problemau i archebion nas cwblhawyd eto.
Cadarnhad yw’r dyddiad y byddwch wedi cael gwybod erbyn hynny y niferoedd terfynol a ddisgwylir. Gwneir hyn fel arfer trwy e-bost.
OTA unigol (er enghraifft, cwmnïau fel Trip Advisor Experiences, Tiqets neu Musement) sy’n gweithredu fel pont rhwng eich cynnyrch neu wasanaeth a’r defnyddiwr trwy borth gwefan.
Mae llwyfan (er enghraifft TXGB) yn gweithredu fel cyfrwng cydgrynhoi sy’n cynnig dewis o sawl cwmni OTA i gyd yn yr un lle.
Bydd cwmnïau OTA yn codi comisiynau ar archebion a gaiff eu cadarnhau yn yr un ffordd ag mae trefnwyr teithiau traddodiadol yn ei wneud, ond gall gweithio trwy lwyfan hefyd olygu taliadau comisiwn ychwanegol.
Term eang a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses o drawsnewid amrywiol agweddau o fusnes mewn modd cadarnhaol – boed hynny sut ydych chi’n gweithio’n fewnol, y profiad a gynigiwch i gwsmeriaid, neu ddiwylliant y cwmni a hyrwyddwch – trwy dechnolegau digidol.
Fodd bynnag, nid yw strategaeth drawsnewid digidol effeithiol yn ymwneud yn unig â mabwysiadu’r technolegau digidol diweddaraf a gorau, a disgwyl iddyn nhw greu gwyrthiau. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod gennych y diwylliant gweithio iawn yn ei le i sicrhau bod y technolegau’n cael eu mabwysiadu’n rhwydd ac yn gwreiddio yng ngwerthoedd cwmni, gan gefnogi’n uniongyrchol unrhyw fentrau twf yn y dyfodol.